Sosiolect

Sosiolect
Math o gyfrwnglanguoid class Edit this on Wikidata
Mathtafodiaith Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebgeolect Edit this on Wikidata

Mae sosiolect yn derm mewn ieithyddiaeth am ddull arbennig o siarad neu ysgrifennu lle mae pobl o'r un dosbarth cymdeithasol, proffesiwn, oedran neu grŵp arall yn defnyddio geiriau a ffurfiau penodol.

Mae sosiolect yn wahanol i dafodiaith ardal (regiolect) am ei fod yn disgrifio dosbarth cymdeithasol neu grŵp penodol, yn hytrach na'r wahanol ffyrdd o siarad o ardal i ardal.[1]

Mae'r term sosiolect yn cynnwys sut mae person yn dod i ddefnyddio mathau o gyfathrebu trwy gysylltiad â grŵp penodol o bobl, efallai heb wybod eu bod yn gwneud hynny. Mae'r term hefyd yn cynnwys sut mae pobl yn dewis yn fwriadol a dysgu defnyddio mathau o gyfathrebu i 'ffitio mewn'.[2]

Mae'r term sosiolect yn gallu cyfeirio at ffordd o siarad neu ysgrifennu sy'n cael eu defnyddio gan grŵp cyfyngedig iawn o bobl. Weithiau mae'n cael ei drin fel y syniad o arddull (cywair iaith) neu jargon neu slang yn fwy cyffredinol.[3]

Enghreifftiau o sosiolect:

  • Gwahanol ffyrdd o siarad mae grwpiau dosbarth economaidd yn eu defnyddio.
  • Ffyrdd o siarad mae pobl ifanc yn ei ddefnyddio gyda'i gilydd sy'n wahanol i'r genhedlaeth flaenorol.
  • Defnydd o jargon proffesiwn neu hobi arbennig, er enghraifft cyfreithwyr neu sglefrfwrddwyr.

Mae sosiolect yn aml yn dangos hunaniaeth y grŵp i bobl eraill, i'w wahanu oddi ar grwpiau eraill ac i gadw pobl o ddosbarth neu gefndir arall allan.

Weithiau, mae pobl sydd ddim yn defnyddio Sosiolect arferol y grŵp yn gallu wynebu beirniadaeth, tynnu coes neu gael eu heithrio'n llwyr o'r grŵp. Mae academyddion yn defnyddio'r termau 'porthgadw diwylliannol' (Cultural gatekeeping) a 'hylendid ieithyddol' (Linguistic hygine).

Yn aml iawn, mae pobl yn newid yn ôl ac ymlaen rhwng defnyddio sosiolect arbennig a ffyrdd eraill o siarad neu ysgrifennu yn ôl y sefyllfa a phwy sydd o'u hamgylch. Mae academyddion yn defnyddio'r termau newid cod a diglosia wrth astudio'r arferion yma.

  1. Wolfram, Walt (2004). "Social varieties of American English". In E. Finegan and J.R. Rickford (ed.). Language in the USA: Themes for the Twenty-first Century. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 0-521-77747-X. (Saesneg)
  2. Smith, K. Aaron; Kim, Susan M. (2017). This Language, A River: A History of English. Broadview Press. p. 281. ISBN 9781770486652. (Saesneg)
  3. Halliday, M. Language and Society. Llundain, Efrog Newydd: Continuum, 2007. (Saesneg)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by razib.in